Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 28 Ebrill 2020
Amser:
13.00 -
14.02
Gellir gwylio’r cyfarfod
ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6093
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Hefin David AS Suzy Davies AS Janet Finch-Saunders AS Siân Gwenllian AS |
Tystion: |
Kirsty Williams AS, Y Gweinidog Addysg Steve Davies, Llywodraeth Cymru Huw Morris, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Tanwen Summers (Ail Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir cyntaf y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
1.3 Nododd y Cadeirydd, pe bai hi am unrhyw reswm yn gadael y cyfarfod, cytunodd y Pwyllgor y bydd Dawn Bowden AC yn dod yn Gadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.
2.1 Bu’r Aelodau yn holi’r Gweinidog Addysg a’i swyddogion am Covid-19 a’i effaith ar blant, ar bobl ifanc ac ar fyfyrwyr, ac ymateb ei hadran hyd yma i’r pandemig.
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn graffu. Cytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog i gael rhagor o wybodaeth am rai o'r materion a godwyd yn ystod y sesiwn.